Mae mwy na 50 o bobol yn cymryd rhan mewn taith feiciau heddiw i gefnogi’r chwaraewr rygbi, Owen Williams a gafodd ei anafu’n ddifrifol ar y cae fis Mehefin diwethaf.

Roedd Williams yn cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth 10 bob ochr y byd pan gafodd ei daclo a dioddef anafiadau difrifol i’w wddf.

Roedd y beicwyr wedi cwrdd ger gatiau Stadiwm y Mileniwm am 9.30 y bore ma, cyn gorffen eu taith yng Nghlwb Rygbi Aberdâr, lle’r oedd Williams yn chwarae cyn troi’n broffesiynol gyda Gleision Caerdydd.

Man cychwyn y daith oedd Parc yr Arfau, a’r cyfan yn dod i ben ar gaeau chwarae’r Ynys yn Aberdâr – taith o 25 milltir.

Bydd yr elw o’r digwyddiad yn mynd at Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sy’n cefnogi chwaraewyr sydd wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar y cae.

Mae’r fenter wedi’i chefnogi gan Undeb Rygbi Cymru, Gleision Caerdydd a Chlwb Rygbi Aberdâr fel rhan o’r ymgyrch Twitter, #staystrongforows.

Ymhlith y rhai yr oedd disgwyl iddyn nhw gymryd rhan mae is-hyfforddwr Cymru, Robin McBryde a thad a brawd Owen Williams.

Dywedodd Robin McBryde mewn datganiad: “Mae Owen yn ddyn ifanc rhyfeddol y mae ei ddyfalbarhad a’i bositifrwydd drwy gydol ei anaf wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb o lawr gwlad i’r gêm élit yng Nghymru.

“Mae’r ffaith fod y gymuned rygbi’n dod ynghyd ddydd Sul yn dyst anferth i Owen.

“Mae’r digwyddiad hefyd yn dangos yr unigolion gwych sydd gyda ni yn y gêm yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at yr her seiclo dros y penwythnos i gefnogi achos mor wych.”