Mae un o gyfarwyddwyr Clwb Pêl-Droed Oldham Athletic wedi dweud nad yw’r clwb yn difaru eu penderfyniad i beidio arwyddo’r Cymro Ched Evans.

Ganol yr wythnos, dywedodd y clwb eu bod nhw “80% yn sicr” o arwyddo Evans, ond daeth cadarnhad ddydd Iau eu bod nhw wedi newid eu meddwl.

Roedd nifer o brif noddwyr y clwb wedi dweud na fydden nhw’n parhau i’w cefnogi pe baen nhw’n arwyddo ymosodwr Cymru.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Barry Owen wrth raglen The Football League Show y BBC: “Fydda i byth yn difaru’r peth.

“Rwy’n hynod siomedig am nifer o resymau na allaf eu trafod.

“Roedd Oldham yn mynd i gael pêl-droediwr na fydden nhw wedi gallu ei fforddio o dan amgylchiadau eraill.

“Rhesymau pêl-droed oedd y tu cefn i’r cyfan.”

Mae Barry Owen wedi ymddiswyddo fel cadeirydd ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb, ond mae’n mynnu nad oedd a wnelo’i benderfyniad â phenderfyniad y clwb ynghylch Evans.

“Roedden ni’n gwybod y byddai storm ynghylch y peth ac roedden ni’n fodlon derbyn tipyn o hynny gan ein bod ni’n credu’n gryf yn yr hawl i gyflogi’r dyn hwn.

“Doedden ni ddim wedi rhagweld cymaint o bwysau gan noddwyr, oedd yn ddealladwy gan eu bod nhw o dan gryn bwysau.

“Yn y pen draw, diwedd y gân oedd y geiniog.

“Bydden ni wedi bod mewn trafferthion ariannol eithriadol o anodd wrth i noddwyr dynnu allan ac fe fyddai wedi peryglu’r clwb yn ddifrifol.”