Stockport 2–2 Wrecsam

Bydd rhaid i Wrecsam a Stockport ail chwarae ar y Cae Ras nos Fawrth wedi i’w gêm yn ail rownd Tlws yr FA yn erbyn Stockport orffen yn gyfatal brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen ar Barc Edgeley diolch i Jack Ryan a Chris Sharp.

Ond tarodd Wrecsam yn ôl yn yr ugain munud olaf, gyda gôl Connor Jennings i ddechrau ac yna gyda chynnig tin-dros-ben Louis Moult.