Casnewydd 1–0 Portsmouth
Cododd Casnewydd i dri safle uchaf yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dros Portsmouth ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Roedd gôl Mark Byrne hanner ffordd trwy’r ail hanner yn ddigon i Gasnewydd wrth iddynt barhau â’u rhediad gwych a chodi i’r trydydd safle yn y tabl.
Shaun Jeffers ac Aaron O’Connor a ddaeth agosaf i’r Cymry mewn hanner cyntaf di sgôr, ac er i Jed Wallace fygwth i’r ymwelwyr hefyd, dim ond un gôl oedd yn mynd i setlo’r gêm hon.
Daeth honno union hanner ffordd trwy’r ail gyfnod pan anelodd Byrne ergyd o du allan i’r cwrt cosbi i’r gornel isaf. Roedd peth amheuaeth ynglyn â’r gôl gan fod O’Connor yn camsefyll ond er i’r dyfarnwr cynorthwyol godi ei luman penderfynodd y dyfarnwr nad oedd yn ymyrryd â’r chwarae.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r trydydd safle, bedwar pwynt yn unig tu ôl i Wycombe ar frig yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Poole, Jones, Yakubu, Jackson, Byrne, Chapman (Porter 89′), Minshull (Klukowski 71′,), Sandell, O’Connor (Howe 86′), Jeffers
Gôl: Byrne 68’
Cerdyn Melyn: Klukowski 83’
.
Portsmouth
Tîm: Jones, Webster, Robinson, Devera, Shorey, Wallace, Hollands (Dunne 89′), Ertl (Barcham 74′), Atangana, Taylor (Westcarr 76′), Tubbs
Cardiau Melyn: Hollands 61’, Jones 71’
.
Torf: 4,575