Penderfyniad Tan yn plesio
Caerdydd 1–0 Fulham
Ennill oedd hanes Caerdydd yn eu gêm gyntaf yn ôl yn eu crysau cartref glas wrth iddynt drechu Fulham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Roedd peniad cynnar Sean Morrison yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i dîm Russell Slade, ddiwrnod yn unig wedi i’r clwb gyhoeddi y byddant yn newid yn ôl i’r crysau glas traddodiadol.
Roedd torf Stadiwm y Ddinas eisoes mewn hwyliau da felly hyd yn oed cyn i Morrison benio eu tîm ar y blaen o dafliad hi Aron Gunnarsson o fewn y chwarter awr cyntaf.
Yr amddiffynnwr canol a ddaeth agosaf at ddyblu mantais yr Adar Gleision hefyd ond cafodd ei gynnig o ongl dynn ei chlirio oddi ar y llinell gan Kostas Stafylidis.
Diflas iawn oedd yr ail hanner mewn gwirionedd ond roedd y tîm cartref wedi gwneud digon i ennill am y tro cyntaf mewn pump gêm gynghrair.
Eilydd heb ei ddefnyddio oedd y Cymro, George Williams, i’r ymwelwyr.
Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Brayford, Morrison, Turner, Malone (John 81′), Adeyemi, Gunnarsson, Whittingham, Noone, Jones (Revell 45′), Le Fondre (Harris 92′)
Gôl: Morrison 14’
.
Fulham
Tîm: Bettinelli, Grimmer, Hutchinson, Bodurov, Stafylidis, Parker, Fofana (Kavanagh 61′), Tunnicliffe, McCormack, Rodallega (Dembele 73′), Woodrow (Kacaniklic 61′)
Cerdyn Melyn: Hutchinson 6’
.
Torf: 22,515