Abertawe 1–1 West Ham

Achubodd Abertawe bwynt yn erbyn West Ham brynhawn Sadwrn er iddynt fod ar ei hôl hi ar hanner amser ar y Liberty.

Rhoddodd Andy Carroll yr ymwelwyr ar y blaen toc cyn yr egwyl ond unionodd yr Elyrch yn yr ail hanner pan wyrodd peniad Bafetimbi Gomis oddi ar y postyn ac yna Mark Noble ar ei ffordd i’r rhwyd.

Abertawe a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ar y cyfan ond aethant ar ei hôl hi ddau funud cyn yr egwyl diolch i gôl gampus Carroll. Rheolodd y blaenwr mawr y bêl yn gelfydd ar ochr y cwrt cosbi cyn ei chrymanu’n daclus i’r gornel uchaf.

Dechreuodd yr Elyrch yr ail hanner yn araf ond cafodd Gomis gyfle gwych i unioni pethau ar yr awr yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a’r eilydd, Marvin Emnes.

Fe ddaeth gôl i Abertawe chwarter awr yn ddiweddarach ac roedd Gomis yn ei chanol hi eto. Tarodd peniad y Ffrancwr yn erbyn y postyn ond gorffennodd y bêl yn y gôl serch hynny ar ôl gwyro oddi ar Noble. Gôl Noble fydd hi ond talodd Gomis deyrnged i’r rhai a gollodd eu bywydau ym Mharis yr wythnos hon gyda baner ei wlad.

Yr ymwelwyr orffennodd y gêm gryfaf a bu rhaid i Abertawe ddiolch i Lukasz Fabianski yn y gôl am achub y pwynt yn y diwedd wrth iddo wneud tri arbediad da yn y munudau olaf i atal Stuart Downing, Carl Jenkinson a Carroll.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y nawfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Britton, Carroll, Dyer (Emnes 62′), Sigurdsson (Castro Oliveira 74′), Routledge (Barrow 62′), Gomis
Gôl: Noble [g.e.h.] 74’
.
West Ham
Tîm:
Adrián, Jenkinson, Tomkins, Collins, Reid, Cresswell, Noble, Nolan (Poyet 82′), Downing, E Valencia (Amalfitano 71′), Carroll
Gôl: Carroll 43’
Cerdyn Melyn: Poyet 90’
.
Torf: 20,745