Gleision 13–22 Leinster

Colli fu hanes pedwar dyn ar ddeg y Gleision wrth i Leinster ymweld â Pharc yr Arfau yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen tan i Jarrad Hoeata dderbyn cerdyn coch tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf. Leinster oedd y tîm cryfaf wedi hynny ac fe aethant adref nid yn unig gyda buddugoliaeth ond gyda phwynt bonws hefyd.

Munud oedd wedi mynd pan groesodd canolwr Leinster, Noel Reid, am y cais agoriadol yn dilyn bylchiad gwreiddiol Jimmy Gopperth.

Gwnaeth yr amodau bethau’n anodd i’r cicwyr trwy’r prynhawn ond defnyddiodd Gareth Anscombe y gwynt cryf i drosi dwy gic gosb o bellter i roi’r Gleision ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.

Roedd Sam Warburton wedi gadael y cae gydag anaf erbyn hynny ond wnaeth hynny ddim effeithio gormod ar y Gleision gan mai ei eilydd, Manoa Vosawai, a groesodd am eu cais cyntaf yn dilyn sgarmes symudol effeithiol, 13-5 y sgôr wedi trosiad Anscombe.

Daeth digwyddiad tyngedfenol y gêm wyth munud cyn yr egwyl pan welodd y clo, Jarrad Hoeata, gerdyn coch am dacl uchel ar Rob Kearney.

Daliodd yr amddiffyn cartref eu tir heb ildio pwyntiau tan yr egwyl ond mater o amser oedd hi nes i’r Gwyddelod daro nôl yn yr ail hanner.

A gyda Vosawai yn y gell gosb a’r Gleision i lawr i dri dyn ar ddeg fe ddaeth ail gais anorfod i’r ymwelwyr, Gopperth yn manteisio ar y gwagle cyn trosi ei gais ei hun i ddod a Leinster o fewn pwynt.

Rhoddodd cais y mewnwr, Luke McGrath, Leinster ar y blaen toc wedi’r awr ond roedd angen tacl dda gan Kearney i atal Alex Cuthbert rhag adfer mantais y Gleision.

Sicrhaodd Tadgh Furlong y pwynt bonws i’r ymwelwyr bum munud o’r diwedd ar brynhawn siomedig i’r cefnogwyr cartref.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn nawfed yn nhabl y Pro12.

.
Gleision
Cais:
Manoa Vosawai 27’
Trosiad: Gareth Anscombe 28’
Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 17’, 21’
Cerdyn Melyn: Manoa Vosawai 47’
Cerdyn Coch: Jarrad Hoeata 32’
.
Leinster
Ceisiau:
Noel Reid 1’, Jimmy Gopperth 55’, Luke McGrath 62’, Tadhg Furlong 75’
Trosiad: Jimmy Goperth 56’