Fe gafodd yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r BAFTA eu cyhoeddi yn Llundain heddiw, gydag’r ffilm Pride – am effaith Streic y Glowyr ar gymuned yn ne Cymru – yn ymddangos mewn dau gategori gwahanol.
Bydd y ffilm yn mynd ben ben am y wobr Ffilm Brydeinig Orau ac mae aelod o’r cast, Imelda Staunton, wedi’i henwebu yng nghategori’r Actores Gefnogol Orau.
Yn ogystal, fe gafodd Eddie Redmayne ei enwebu yn sgîl ei bortread o’r gwyddonwyr Stephen Hawkin yn y ffilm The Theory of Everything. Mae o’n cael ei weld fel ffefryn gan y bwcis yn y categori Actor Gorau, o flaen Benedict Cumberbatch a Jake Gyllenhall.
Cafodd ei gyd-weithiwr ar y ffilm The Theory of Everything, Felicity Jones, hefyd ei henwebu am yr Actores Orau ac mae hi wedi dweud ei bod wedi “ei syfrdanu a’i chyffroi.”
Amy Adam yw un o’r ffefrynnau eraill yn y categori hwnnw am ei phortread o Margaret Keane yn y ffilm Big Eyes.
Dyma restr lawn o’r enwebiadau: <http://awards.bafta.org/award/2015/film>
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi gan Stephen Fry mewn seremoni yn Llundain ar yr wythfed o Chwefror.