Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud fod lladron wedi torri i mewn i ganolfan hamdden yn Sir y Fflint yn oriau mân y bore ac wedi dwyn o focs elusen.

Bu lladrad yng Nghanolfan Hamdden y Pafiliwn yn Y Fflint ac mae apêl wedi cael ei lansio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad.

Fe wnaeth y lladron ddwyn o beiriannau gwerthu y tu mewn i’r adeilad, yn ogystal ag o focsys oedd yn dal arian gafodd ei roi i elusennau.

“Os oeddech chi yn yr ardal ar y pryd ac wedi gweld rhywbeth amheus, mi fuasem yn hoffi clywed ganddoch,” meddai’r Rhingyll Steve Arnold.

Gofynnir i unrhyw lygad dystion neu rywun sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.