Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi bod £3.6 miliwn o gymorth ariannol ar gyfer hybu’r Gymraeg ar draws Cymru yn ystod 2015-16.
Bydd 34 o sefydliadau yn derbyn arian, gyda phob Mentrau Iaith yn derbyn lleiafswm o £60,000 yr un o gyllid ychwanego.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn derbyn grant ychwanegol o £60,000 ar gyfer cyflawni prosiectau cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg newydd.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ogystal fanylion y 12 prosiect llwyddiannus a fydd yn elwa o’r Gronfa Arloesi Bwrw Mlaen sydd werth £300,000 yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd y prosiectau yn hybu ac yn creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol ac mewn bywyd bob dydd.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Dyma becyn sylweddol o gymorth ariannol a fydd yn helpu â’r gwaith o hybu’r Gymraeg mewn trefi a chymunedau ar draws Cymru yn ystod 2015-16. Mae’r Llywodraeth yn awyddus i sicrhau iaith fyw sy’n ffynnu a bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflawni’r ymrwymiadau sydd wrth wraidd Bwrw Mlaen.”
“Hoffem annog pobl i fod â’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac o fewn eu cymunedau lleol. Bydd y pecyn hwn o arian yn ein helpu i gyflawni hyn. Bydd yn ei gwneud hi’n bosibl i ddatblygu prosiectau newydd, gwahanol a chyffrous sy’n cefnogi gweithgareddau Cymraeg ar lawr gwlad ac yn creu rhagor o gyfleoedd.”
Pwy sy’n cael yr arian?
Ymysg prosiectau llwyddiannus Cronfa Arloesi Bwrw Mlaen ar gyfer 2015-16 mae:
- Dyffryn Nantlle 20-20 (£6,900)
Prosiect cymunedol ar gyfer datblygu rhaglen gyfeillio rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn Nyffryn Nantlle.
- Hunaniaith – Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd / Cymraeg yn y Gweithle (£30,000)
Prosiect a fydd yn annog a chefnogi’r Gymraeg o fewn gwahanol weithleoedd a busnesau yng Ngwynedd.
- Menter Bro Dinefwr, (Cais partneriaethol) (£18,000)
Sicrhau parhad prosiect newyddiaduraeth cymunedol yn ardal Dinefwr.
- Menter Caerdydd (£20,000)
Ariannu’n rhannol gost cynnal ail ddiwrnod Gŵyl Tafwyl.
- Menter Dinbych (£27,000)
Sicrhau parhad prosiect cymunedol ac amgylcheddol (Iaith a Chynefin) o fewn trefi marchnad Sir Ddinbych a datblygu gwaith Cynllun Gweithredu’r Gymraeg o fewn rhan ddeheuol Sir Ddinbych.
- Menter Maldwyn, (Cais partneriaethol) – cyflogi swyddogion Prosiect i Ganolfan Owain Glyndwr (£35,800)
Datblygu prosiect a fydd yn hybu’r Gymraeg ym Mro Ddyfi, gan ddatblygu gwaith Cynllun Gweithredu’r Gymraeg.
- Menter Môn, (Cais Partneriaethol) – Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc Môn (£30,000)
Creu rhwydwaith o berfformwyr ifanc ar Ynys Môn, mewn partneriaeth â Gŵyl Cefni.
- Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol, (Cais Partneriaethol) (£30,000)
Pecyn blaengar o weithgareddau ac adnoddau ar gyfer codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o gymwysterau a sgiliau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg o fewn hen sir Dyfed er mwyn ceisio cynyddu hyder unigolion i ddefnyddio eu Cymraeg.
- Urdd Gobaith Cymru– Cynyddu Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (£28,907)
Sicrhau parhad prosiect a sefydlwyd yn 2014-15 sy’n ceisio datblygu sgiliau ieithyddol pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’r manteision economaidd sydd ynghlwm wrth y Gymraeg.
- Clwb Rygbi Caernarfon (£4,500)
Sefydlu gwersyll rygbi yn ystod gwyliau’r haf, gan dargedu ardaloedd mwyaf difreintiedig Caernarfon.
Mae’r canlynol wedi’u cytuno mewn egwyddor yn seiliedig ar gwiriadau pellach:
- Cerdd Cymunedol Cymru (£22,848)
Prosiect digidol ar gyfer creu gwefan a fydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol i bobl ifanc drwy fideos cymorth ynghylch gweithgareddau fel sefydlu band newydd a threfnu gig.
- Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, (Cais Partneriaethol) (£46,275)
Ymgyrch hysbysebu a hyrwyddo ar raddfa eang i geisio cynyddu aelodaeth Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y mudiad.