Criw Meithrinfa Derwen Deg
Ar hyn o bryd mae rhieni Cymraeg talp helaeth o arfordir y gogledd – o Lanfairfechan hyd at Brestatyn – yn gorfod anfon eu plant i feithrinfeydd Saesneg.
Ond mae yna dro ar fyd ar fin digwydd wedi i Swyddog Mentrau Cymdeithasol Cymraeg Menter Iaith Conwy, Eirian Pierce Jones, lwyddo i ddenu miloedd o bunnau er mwyn agor meithrinfa ‘Derwen Deg’ yng Nghyffordd Llandudno.
Bydd yno le i 36 o blant bach gael gofal gan saith aelod o staff newydd, diolch yn bennaf i arian y Loteri.
Daw bron i £300,000 o Gronfa Cymunedau’r Arfordir y Loteri Fawr, ffynhonnell sy’ wedi ei neilltuo i helpu cymunedau sydd o fewn cyrraedd arfordiroedd ledled Prydain.
Cafwyd £75,000 pellach gan ‘Cyfenter’ drwy Fenter Môn, o bot o arian o Ewrop sy’n cael ei rannu gyda’r bwriad o gefnogi mentrau cymdeithasol i berchnogi adeiladau a’u hadnewyddu nhw.
Un fam hapus
Y brêns ariannol tu ôl i’r feithrinfa newydd ydy Nia Owen, 38 oed, sy’n magu dau o blant yn Neganwy.
A hithau’n gyfrifydd siartredig, Nia Owen fu’n gyfrifol am greu cynllun busnes ar gyfer meithrinfa, a bellach mae hi’n un o gyfarwyddwyr Derwen Deg.
Mae’n falch bod meithrinfa Gymraeg ar y gweill i ofalu am blant fel ei mab Osian sy’n bedair, a’i merch Lois sy’n 20 mis oed.
“Ers i Osian fynd i’r feithrinfa yng Nghyffordd Llandudno mae o wedi bod yn dod adref yn siarad lot o Saesneg,” meddai Nia Owen.
“Dim bod hynny yn beth drwg, ond dw i eisiau iddo fo fod mor rhugl yn y Gymraeg ag be’ ydy o yn y Saesneg.
“Dw i eisiau iddo fo fod yn rhugl yn y ddwy iaith, a dw i’n meddwl fod o’n bwysig cael y ddarpariaeth meithrinfa yn Gymraeg. Achos dw i’n teimlo bod nhw’n tyfu fyny ac yn siarad Saesneg beth bynnag, yn gallu pigo Saesneg i fyny yn haws o lawer nag be maen nhw’n gallu pigo Cymraeg i fyny.
“Ac hefyd os ydy’r plant yn cyfathrebu yn Gymraeg gyda’i gilydd mewn meithrinfa, mae yna fwy o obaith iddyn nhw siarad Cymraeg efo’i gilydd tu allan i’r feithrinfa ac wedyn pan maen nhw’n mynd i’r ysgol.
“Ac mi wneith hynny wahaniaeth i’r iaith yn yr ysgol gynradd hefyd, dw i’n meddwl.”
Angen i Fentrau Iaith fod yn ‘rym adfywio’ sy’n creu swyddi – mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg