Mae dau ddyn, 20 oed a 21 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus wedi i ddynes gael ei lladd mewn damwain yng Nghasnewydd y bore yma.

Digwyddodd y ddamwain rhwng dau gar ac fe aed â dynes arall i’r ysbyty gydag anafiadau i’w breichiau, yn ôl yr heddlu.

Mae’r A4042 wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn y ddamwain toc wedi saith y bore yma.