Ieuan Williams
Mae arweinydd Cyngor Môn Ieuan Williams wedi mynegi siom a phryder ynghylch cyhoeddiad y Grid Cenedlaethol eu bod nhw am godi mwy o beilonau trydan ar draws yr ynys.

Roedd y Cyngor yn awyddus i weld cyswllt tanfor rhwng gorsaf bŵer arfaethedig Wylfa Newydd a’r rhwydwaith trydanol.

Ond fe fydd y Grid Cenedlaethol yn gosod gwifrau uwchben y ddaear a fydd yn dilyn trywydd y peilonau presennol – sy’n mynd trwy Rosgoch, Llandyfrydog, Capel Coch, Rhosmeirch a Phenmynydd.

Mewn datganiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams: “Rwy’n hynod siomedig nad yw’r Grid Cenedlaethol wedi gwrando ar y Cyngor Sir, na chwaith ar sylwadau pobl Môn a oedd o blaid cyswllt tanfor, yn hytrach na mwy o beilonau ar hyd yr Ynys.

“Ceir teimladau cryf iawn yn erbyn peilonau newydd, ac rydw i, fel nifer o drigolion, yn bryderus iawn am yr effeithiau posib ar bobl sydd yn byw a gweithio gerllaw, ein hamgylchedd, tirlun a thwristiaeth, sydd werth dros £250m y flwyddyn i economi’r Ynys.

“Mae’n ymddangos mai cost yw’r prif ffactor y tu ôl i benderfyniad y Grid Cenedlaethol, ac, er yn llawer mwy heriol o safbwynt technegol, mae creu cyswllt tanfor yn bosib.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Cyngor Sir, Richard Parry Jones, “Byddwn yn pwyso am gyfarfod cynnar gyda chynrychiolwyr o Grid Cenedlaethol.”

Rhun ar gefn ei geffyl

Meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad yr ynys: “Mae hyn yn newyddion siomedig iawn i bobl Ynys Môn. Rwy’n benderfynol o barhau i wthio am ateb arall yn hytrach na derbyn coridor o beilonau ar draws yr Ynys. Ni ddylai trigolion Ynys Môn dalu’r gost o drosglwyddo trydan i weddill Prydain.”

Albert am alw cyfarfod

Mae’r Aelod Seneddol lleol Albert Owen yn anhapus gyda’r penderfyniad ac yn bwriadu trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater.