Richard Meade
Mae un o bencampwyr Olympaidd enwocaf Cymru, Richard Meade, wedi marw yn 76 oed yn dilyn salwch.
Cafodd ei eni yng Nghas-gwent ac fe enillodd fedal aur am farchogaeth yn y Gemau yn Munich yn 1972. Fe wnaeth o hefyd ennill medal aur fel rhan o dîm yn Mecsico 1968 ac yn Munich yn 1972.
Mae’r medalau hyn yn golygu bod Richard Meade yn cael ei gydnabod fel y pencampwr Olympaidd fwyaf llwyddiannus mewn cystadleuaeth dri diwrnod o hyd.
Roedd y marchog, gafodd ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn gan y BBC yn 1972, wedi bod yn derbyn triniaeth ers cael diagnosis o ganser ym mis Hydref.