Llwyfan olew
Fe allai hyd at 15,000 o swyddi gael eu colli yn niwydiant olew’r Alban oherwydd y gostyngiad ym mhris y tanwydd, meddai Plaid Lafur y wlad.
Maen nhw wedi rhybuddio y gallai’r effeithiau fod yn waeth na chau Gwaith Dur Ravenscraig ym Motherwell yn nechrau’r 1990au pan gafodd bron 13,000 o swyddi eu colli.
Mae ffigurau’r Blaid Lafur yn dod o ddadansoddiad gan gwmni arbenigwyr o adroddiad arall i Lywodraeth Prydain.
Roedd hwnnw’n dweud y gallai’r gostyngiad prisiau arwain at golli 35,000 o swyddi trwy wledydd Prydain – er fod rhai arbenigwyr eraill yn dweud y bydd prisiau’n codi eto.
Galw am weithredu
Yn ôl papur newydd y Scotsman, mae Llafur yn yr Alban wedi galw ar Lywodraeth yr Alban i weithredu a nhwthau yn eu tro wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnig manteision trethi i waith ymchwilio am olew ym Môr y Gogledd.
Incwm o olew oedd un o brif ddadleuon economaidd Llywodraeth yr SNP wrth ymgyrchu am annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi y llynedd.