David Cameron
Mae David Cameron wedi amddiffyn ei sylwadau damniol o Wasanaeth Iechyd Cymru a’i honiad fod Clawdd Offa fel y “ffin rhwng byw a marw” o ganlyniad i arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.
Mewn cyfweliad ar raglen BBC Wales, Good Morning Wales y bore ma dywedodd y Prif Weinidog bod “pobol wedi bod yn marw wrth aros am driniaeth” yng Nghymru – gan ategu sylwadau a wnaeth yng nghynhadledd wanwyn ei blaid yn Llangollen y llynedd.
Daeth ei sylwadau wrth i adrannau brys yn Lloegr gyhoeddi eu bod wedi methu eu targedau o drin achosion brys o fewn y targed o bedair awr a nifer o ymddiriedolaethau yn cyhoeddi eu bod mewn “sefyllfa ddifrifol” ac yn methu ymdopi gyda’r cynnydd yn nifer y cleifion.
Fe wnaeth disgrifiad gwreiddiol Cameron o’r GIG sbarduno ffrae wleidyddol rhwng San Steffan a Chaerdydd, gyda Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, yn cyhuddo’r Prif Weinidog o lansio ymosodiad ar Gymru.
Ond er y feirniadaeth, fe ddywedodd David Cameron y bore ma: “Rwy’n glynu at yr hyn y dywedais ynglŷn â’r peryglon yng Nghymru.
“Mae’r ffeithiau’n glir: mae pobol wedi bod yn marw wrth aros am driniaeth, yn rhannol o ganlyniad i doriadau i’r Gwasanaeth Iechyd gan wleidyddion yng Nghaerdydd.”
Roedd David Cameron hefyd yn mynnu bod ganddo berthynas dda â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi i’r ddau gyd-weithio ar Uwch-gynhadledd Nato yng Nghasnewydd y llynedd.
‘Sylwadau sarhaus’
“Bu hon yn llywodraeth pro-Cymru,” meddai Cameron ar Radio Wales.
“Boed hynny’n ceisio helpu i ddatrys problemau’r M4, codi’r orsaf niwclear newydd yn Ynys Môn neu’n trydaneiddio’r lein rheilffordd i Abertawe.”
Wrth ymateb i sylwadau David Cameron, dywedodd Vaughan Gething AC, Dirprwy Weinidog Iechyd y Blaid Lafur yng Nghymru:
”Bydd penderfyniad David Cameron i barhau gyda’i sylwadau sarhaus am farwolaeth yn niweidiol iawn i ymgeiswyr Ceidwadol ar hyd a lled Cymru. Maen nhw’n gwybod mai codi bwganod yn anghyfrifol yw hyn, a’i fod nid yn unig yn rhagrithiol ond hefyd yn niweidiol yn wleidyddol.
“Gydag argyfwng ar ôl argyfwng yn dod i’r wyneb yng ngwasanaeth iechyd Lloegr – gwasanaeth y mae’r Prif Weinidog yn gyfrifol amdano – fe fyddech chi wedi disgwyl ychydig o wyleidd-dra heddiw, ond does ’na ddim o hyn. Dyma’r un hen Dorïaid sydd yn poeni dim am Gymru a dim am ein gwasanaeth iechyd,” meddai.