Mae ail ddyn wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ar ddyn a dwy ddynes yn Nhredegar, Blaenau Gwent ar Ŵyl San Steffan.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Commercial Street, Tredegar, tua 11.25yh ar ddydd Gwener, 26 Rhagfyr.
Cafodd dyn 35 oed, a dwy ddynes, 26 a 35 oed, anafiadau i’w hwynebau.
Bu’n rhaid i ddau ohonyn nhw dderbyn triniaeth yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Mae dyn 22 oed o Dredegar wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd dyn 21 oed o Dredegar ei arestio ar Nos Galan ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.