Llys y Goron Caerdydd
Mae cyn-gariad y pedoffeil Ian Watkins yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Ymddangosodd Joanne Mjadzelics, sy’n 39 oed ac yn dod o Doncaster, gerbron y llys ar gyhuddiad o annog y canwr roc i ddosbarthu delweddau anweddus o blant.
Mae hi hefyd yn cael ei chyhuddo o fod a delweddau anweddus yn ei meddiant ond yn gwadu’r holl gyhuddiadau.
Yn y llys heddiw, dywedodd yr erlynydd James Davies wrth y rheithgor ei bod hi ac Ian Watkins wedi trafod cael plentyn gyda’i gilydd er mwyn ei gam-drin. Mae’n debyg bod fideo o’r drafodaeth ym meddiant yr heddlu.
Cafodd Ian Watkins – cyn-ganwr y grŵp roc Lostprophets, o Bontypridd – ei garcharu am 35 mlynedd ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl cyfaddef i gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.
Credir fod y cyhuddiadau yn erbyn Joanne Mjadzelics wedi digwydd yn 2011.