Sammy Almahri
Mae ymgyrch rhyngwladol i ddod o hyd i “ddyn peryglus” sy’n cael ei amau o lofruddio myfyrwraig o Gaerdydd ar Noson Galan yn parhau a’r heddlu wedi rhyddhau llun o’r dyn y maen nhw’n chwilio amdano.

Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw’n cyd-weithio gyda swyddogion o Efrog Newydd a Tanzania yn nwyrain Affrica i geisio dod o hyd i Sammy Almahri, 44 oed, sy’n dod o Efrog Newydd.

Cafodd llun cylch cyfyng (CCTV) o’r dyn yng ngwesty’r Future Inn, Caerdydd ei ryddhau gan yr heddlu ddoe.

Fe adawodd Sammy Almahri y gwesty am dri o’r gloch y bore, ar Nos Galan, gan hedfan o faes awyr Heathrow i Bahrain am 10:30yb. Mae’r heddlu yn credu y gallai bellach fod yn Tanzania.

“O’n hymholiadau, rydym wedi darganfod bod Almahri yn berson dyfeisgar iawn a bod ganddo fynediad i gronfeydd ariannol, a allai ei gynorthwyo ymhellach i osgoi cael ei ddal,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley.

“Rwy’n ystyried y dyn hwn i fod yn unigolyn peryglus ac rydym yn cynghori unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad i adrodd i’r awdurdodau ar unwaith ac i beidio â mynd yn agos ato.”

Apêl

Y gred yw bod Nadine Aburas, 28, wedi cyfarfod Sammy Almahri, 44, dros y we a’u bod wedi adnabod ei gilydd ers tro.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddau yng ngwesty’r Future Inn i gysylltu â nhw ar 101.