Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn lansio ymgyrch etholiadol y Blaid Lafur heddiw drwy annog ymgyrchwyr i fynd “o stryd i stryd” yn curo ar ddrysau er mwyn ennyn cefnogaeth i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Fe fydd yn galw ar ymgyrchwyr i gynnal trafodaethau gyda phedwar miliwn o bleidleiswyr – bron i ddwywaith gymaint y nifer yn etholiad 2010 – i drafod eu polisïau yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad.

Yr wythnos diwethaf, fe honnodd Douglas Alexander, sy’n gyfrifol am lunio ymgyrch etholiadol y blaid, y gallai’r Ceidwadwyr wario tair gwaith yn fwy na Llafur yn yr ymgyrch am rif 10.