Ched Evans
Yn ôl adroddiadau, mae Oldham Athletic yn ail-ystyried eu penderfyniad dadleuol i roi cytundeb i’r pêl-droediwr Ched Evans.
Roedd disgwyl i’r treisiwr ymuno gyda’r clwb Adran Gyntaf heddiw ond mae deiseb ar-lein sy’n gwrthwynebu’r penderfyniad wedi cael ei arwyddo gan tua 2,000 o bobl bob awr ers i’r newyddion dorri.
Yn ôl y BBC fe fydd bwrdd rheoli Oldham yn cynnal cyfarfod y bore ma ac mae disgwyl cyhoeddiad bnawn fory. Mae’n annhebygol bellach y bydd Evans, 26, yn hyfforddi gyda’r clwb heddiw.
Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref y llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo am dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl yn 2011. Mae wedi mynnu ei fod yn ddieuog.
Roedd ’na adroddiadau ei fod mewn trafodaethau gyda chlwb pêl-droed Oldham Athletic, a oedd wedi dweud fis diwethaf na fydden nhw’n cynnig cytundeb i Ched Evans nac yn rhoi’r cyfle iddo hyfforddi gyda nhw.
Ond mae’n debyg bod tro pedol y clwb wedi cythruddo rhai o gefnogwyr Oldham a bod hyd at 20,000 bellach wedi arwyddo’r ddeiseb ar-lein.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Simon Corney, cadeirydd Oldham Athletic i beidio arwyddo Evans, gan ddweud bod ganddo “hawl i weithio” ond “nid mewn rôl lle mae’n dylanwadu ar farn ynglŷn â thrais rhywiol.”
Mae gobeithion Evans i ddychwelyd i fyd pêl-droed wedi arwain at wahaniaeth barn, gyda Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) yn dadlau ei fod yn haeddu’r cyfle i barhau gyda’i yrfa ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, tra bod cefnogwyr pêl-droed a grwpiau menywod yn dweud na ddylai ddychwelyd i rôl mor ddylanwadol o fewn y gêm.
Cafodd cynnig iddo hyfforddi gyda’i gyn glwb Sheffield United ei dynnu nôl yn dilyn gwrthwynebiad gan gefnogwyr a noddwyr y clwb.