Stoke 3–1 Wrecsam

Colli fu hanes Wrecsam yn nhrydedd rownd y Cwpan FA brynhawn Sul er gwaethaf ymdrech lew yn erbyn Stoke oddi cartref yn Stadiwm Britannia.

Rhoddodd Mark Carrington y Cymry ar y blaen gyda deunaw munud i fynd ond tarodd y tîm Uwch Gynghrair dan ofal Mark Hughes yn ôl gyda goliau hwyr Marko Arnautovic a Stephen Ireland (2).

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Wrecsam yn addawol a’r ymwelwyr oedd y tîm gorau yn y deg munud cyntaf.

Dechreuodd Stoke gryfhau wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ond llwyddodd Manny Smith a Blaine Hudson i ymdopi â phopeth yng nghanol amddiffyn y Dreigiau.

Bu bron i Jon Flatt yn y gôl wneud traed moch o bas yn ôl iddo gan James Pearson ym munud olaf yr hanner ond digon cyfforddus oedd yr hanner cyntaf ar y cyfan i’r tîm o’r Gyngres.

Ail Hanner

Dechreuodd Stoke yr ail hanner yn well ond Wrecsam a ddaeth yn agos at agor y sgorio ar yr awr, ond er i gynnig Wes York guro Jack Butland fe ddaeth y trawst i achub gôl-geidwad Stoke.

Penderfynodd rheolwr Stoke, y gŵr o Riwabon, Mark Hughes, wneud ambell newid wedi hynny gan ddod a Peter Crouch a chyn chwaraewr Wrecsam, Jonathan Walters, i’r cae.

A bu bron i Crouch greu argraff yn syth ond gwnaeth Flatt yn dda i arbed ei beniad hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Yna, ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg fe ddaeth y gôl agoriadol a Wrecsam gafodd hi, croesodd Connor Jennings i Carrington a pheniodd yntau i gefn y rhwyd.

Deg Munud Olaf

Roedd y Dreigiau yn synhwyro sioc felly gyda dim ond deg munud i fynd ond llwyddodd y tîm cartref i ddangos pam eu bod yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

Unionodd Arnautovic bethau wrth sgorio ar yr ail gyfle wedi i Flatt arbed cynnig gwreiddiol Crouch.

Dylai Flatt fod wedi gwneud yn well wedyn i atal Ireland rhag sgorio’r ail yn dilyn gwaith creu Crouch eto.

A doedd Wrecsam yn sicr ddim yn haeddu ildio trydedd wrth i Ireland rwydo ei ail ef yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Perfformiad calonogol iawn gan Wrecsam felly ond siom yn y pen draw.
.
Stoke
Tîm: Butland, Bardsley, Shawcross, Huth, Wilson, Cameron (Ireland 76’), Sidwell (Crouch 62’), Arnautovic, Adam, Assaidi, Diouf (Walters 61’)
Goliau: Arnautovic 80’, Ireland 86’, 90’
.
Wrecsam
Tîm:
Flatt, Pearson, Smith, Hudson, Ashton, Carrington, Harris, Hunt, Evans (Clarke 82’), Jennings, York (Bishop 71’)
Gôl: Carrington 73’
Cardiau Melyn: Evans 75’, Flatt 86’
.
Torf: 19,423