Paul Silk
Mae nifer o Gymry ymhlith cannoedd o bobl sy’n cael eu henwi ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Yn eu plith mae Paul Silk, cyn-gadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, sy’n cael ei wneud yn Gydymaith Urdd y Baddon am ei wasanaethau i ddatganoli yn y DU.

Ymhlith y wynebau cyfarwydd yn y DU sy’n derbyn anrhydeddau mae’r actores Joan Collins, 81, wedi cael ei gwneud yn fonesig am ei gwaith gydag elusennau, ynghyd a’r cyflwynydd teledu Esther Rantzen.

Mae’r dylunydd dillad Mary Quant hefyd wedi cael ei gwneud yn fonesig, ac mae’r actor James Corden, sy’n adnabyddus am ei rol yn y gyfres Gavin and Stacey, wedi cael OBE.

Mae ’na feirniadaeth wedi bod o’r anrhydedd i Fiona Woolf, cyn Faer Llundain, a oedd wedi gorfod ymddiswyddo fel cadeirydd yr ymchwiliad i achosion hanesyddol o gam-drin plant oherwydd ei chysylltiadau gyda’r cyn Ysgrifennydd Cartref yr Arglwydd Brittan.

Mae hi wedi cael ei gwneud yn Fonesig am ei gwaith fel Maer Llundain.

Gwaith yn y gymuned

Yng Nghymru mae nifer wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith yn eu cymunedau neu eu gwaith i fudiadau rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn derbyn yr OBE mae Elizabeth Fiona Davis, cyn-gyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Dr Bernadette Fuge, cadeirydd Age Cymru, a David Baden Jones, pennaeth a phrif weithredwr, Coleg Cambria.

Mae Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Nyrsio, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn derbyn CBE am ei gwaith ym myd nyrsio, y lluoedd arfog ac undebau llafur.

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn MBE mae Judith Ann Walters, o Geredigion, am ei gwaith gyda’r mudiad Girl Guiding; Melvin Jehu, cyn-gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf, am ei waith ym myd iechyd; a Stephen William Davies am ei waith fel gwirfoddolwr gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

Mae Anne Owen, o Sir y Fflint, yn derbyn MBE am ei gwaith gyda Chanolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd; a Jenny Broughton, 80, yng Nghaerdydd, sy’n derbyn MBE am ei gwaith gyda’r gymuned LGBT (lesbiaid, hoywon, deurywiol a thrawsrywiol).

‘Cydnabyddiaeth’

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb wedi llongyfarch pobl yng Nghymru sydd wedi eu hanrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Ymhlith y rhai a anrhydeddwyd, meddai, mae ffigurau cyhoeddus a llawer o bobl lai adnabyddus sydd wedi gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau a’r achosion maen nhw’n credu ynddynt.

Dywedodd Stephen Crabb: “Un o’r pethau gwych am restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd Ei Mawrhydi yw fod pobl o lawer o wahanol gefndiroedd yn cael eu hanrhydeddu yn yr un modd.

“Mae’r rhai sy’n gweithio yn dawel ac yn ddiwyd dros eu cymunedau yn derbyn yr un gydnabyddiaeth â’r rhai sy’n cyflawni pethau mawr mewn chwaraeon, y celfyddydau neu drwy wasanaeth cyhoeddus.

“Rwy’n falch iawn o’r holl bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu heddiw ac yn awyddus i ddiolch iddyn nhw i gyd am gyfrannu cymaint i Gymru.”