Maes awyr Heathrow
Fe fydd y broses o sgrinio gweithwyr iechyd am Ebola ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o orllewin Affrica ar ôl i nyrs deimlo’n sâl ar ôl gadael Heathrow er iddi gael profion am y firws.

Mae Pauline Cafferkey, nyrs o dde Lanarkshire, yn cael triniaeth arbenigol yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain ar ôl iddi deimlo’n sâl ar ôl hedfan o Heathrow i Glasgow nos Sul ar ôl bod yn gweithio yn Sierra Leone.

Mae’n debyg ei bod hi wedi codi pryderon yn Heathrow ond roedd profion yn dangos nad oedd ganddi wres uchel a chafodd ganiatâd i barhau a’i thaith i Glasgow.

Dywedodd prif swyddog meddygol y Llywodraeth, y Fonesig Sally Davies bod cwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn â’r broses sgrinio yn y maes awyr ond mae’n mynnu mai pwrpas y broses sgrinio yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y firws ac nad oes disgwyl i’r profion ddarganfod pob achos o Ebola.

Roedd Pauline Cafferkey wedi cael parhau a’i thaith am nad oedd ganddi unrhyw symptomau o Ebola, gan gynnwys twymyn, meddai.

Ychwanegodd y Fonesig Sally Davies y bydd Pauline Cafferkey yn cael gwaed gan bobl eraill sydd wedi gwella ar ol cael Ebola gan gynnwys y nyrs Will Pooley, y person cyntaf yn y DU i gael y firws.

‘Anhrefnus’

Mae un o gydweithwyr y nyrs, Dr Martin Deahl, a fu’n gweithio gyda hi yn Sierra Leone, wedi beirniadu’r trefniadau ar gyfer cynnal profion ar weithwyr iechyd sy’n dychwelyd i’r DU gan ddweud bod y system yn “anhrefnus”.

Mae swyddogion iechyd yn dal i geisio cysylltu gyda theithwyr oedd ar yr awyren gyda Pauline Cafferkey o Morocco i’r DU ac yna o Heathrow i Glasgow.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod Pauline Cafferkey yn “gwneud mor dda ag y gellir ei ddisgwyl o dan yr amgylchiadau.”

Yn y cyfamser mae gweithiwr iechyd yn Aberdeen a gafodd ei tharo’n wael ar ol dychwelyd o orllewin Affrica yn ddiweddar wedi cael prawf negatif am Ebola, yn ol Llywodraeth yr Alban.

Cafodd y ddynes ei tharo’n wael ddydd Llun a’i chludo i Ysbyty Brenhinol Aberdeen lle cafodd profion am y firws.

Mae claf arall yng Nghernyw sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o orllewin Affrica yn cael ei gadw mewn uned ar wahân yn Ysbyty Brenhinol Cernyw yn Treliske, Truro, tra bod profion yn cael eu cynnal.