Parhau mae’r ymchwiliad i achos tân ar stad ddiwydiannol ym Merthyr Tudful a oedd wedi difrodi tua 28 o gerbydau.

Bu 40 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli’r tân ar safle First Call Coaches ar Stad Ddiwydiannol y Pant ar ôl cael eu galw yno tua 1.00yb ddydd Sul.

Fe gymerodd bron i bum awr i ddod a’r tân o dan reolaeth a bu’n rhaid cau ffordd yr A465 i draffig oherwydd y mwg.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod tri o fysus ar dân pan gyrhaeddodd diffoddwyr y safle, ac erbyn 4yb roedd 28 o gerbydau, gan gynnwys bysys mawr a bysys mini, wedi cael eu difrodi’n sylweddol.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn ymchwilio i geisio darganfod beth achosodd y tân.