Peiriannwyr yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn King's Cross
Ni fydd un o benaethiaid Network Rail bellach yn derbyn tal o £300,000 pan fydd yn gadael ei swydd y flwyddyn nesaf, meddai llefarydd.
Roedd Robin Gisby yn goruchwylio’r gwaith peirianyddol ar y rheilffyrdd a arweiniodd at oedi i filoedd o deithwyr dros y Nadolig. Cafodd trenau i King’s Cross eu canslo a bu’n rhaid cau gorsaf Paddington dros dro.
Fe fydd Robin Gisby yn gadael ei swydd fel rheolwr gyfarwyddwr y rhwydwaith ar ddiwedd mis Chwefror, meddai llefarydd ar ran Network Rail.
Roedd y cwmni wedi cyhoeddi y byddai Gisby yn derbyn bonws o £371,000 ond maen nhw bellach wedi cyhoeddi na fydd hynny’n digwydd.
Bu’n rhaid iddo ymddiheuro am yr anrhefn ar y trenau wrth i’r corff sy’n goruchwylio’r rheilffyrdd ddweud ei fod yn cynnal ymchwiliad i’r trafferthion.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail nad oedd y penderfyniad i ddileu’r bonws yn gysylltiedig â’r trafferthion dros y Nadolig.
Yn ôl cyfrifon Network Rail, roedd Robin Gisby wedi derbyn cyflog a thaliadau o bron i £1 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2013/14.