Hofrennydd yn achub teithwyr o'r llong fferi,y Norman Atlantic
Mae nifer y bobl sydd wedi marw ar ol i long fferi fynd ar dân ym Môr yr Adriatig, bellach wedi codi i bump.
Bu farw un dyn ddoe a chafwyd hyd i gyrff pedwar o bobl eraill ar y llong heddiw.
O’r 478 o deithwyr a chriw ar y llong, mae 391 bellach wedi cael eu hachub.
Yn eu plith mae pedwar o Brydeinwyr.
Mae timau achub wedi bod yn brwydro yn erbyn tonnau mawr a gwyntoedd cryfion i geisio achub y teithwyr o’r llong.
Mae’r teithwyr yn cael eu rhoi ar longau nwyddau gerllaw er mwyn eu cludo yn ôl i’r tir.
Fe gyrhaeddodd y llong gyntaf, y Spirit of Piraeus, borthladd y Bari yn yr Eidal y bore ma yn cludo 49 o’r teithwyr, gan gynnwys pedwar o blant.
Fe ddechreuodd y tân ar y llong fferi o Wlad Groeg, y Norman Atlantic, fore dydd Sul.
Mae hofrenyddion wedi bod yn gweithio drwy’r nos i achub pobl o’r llong mewn gwyntoedd o hyd at 50 mya.