Pafiliwn Porthcawl
Fe ddaeth mwy o bobol nag erioed o’r blaen i nofio ym Mhorthcawl heddiw, wrth i’r digwyddiad ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed.
Yr amcangyfri’ oedd fod tua 1,500 o bobol yno a llawer wedi gwisgo fel Llychlynwyr neu glowniaid i gofio am ddau gyn-nofiwr.
Roedd dau o’r nofwyr heddiw yn rhan o’r digwyddiad 50 mlynedd yn ôl – Chris Hughes a Vic Davies, sydd bellach yn 80 oed.
Mae’r nofio’n codi arian at elusennau – y tro yma at Tŷ Hafan ac elusen leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl y trefnwyr, roedden nhw wrth eu boddau gyda’r ymateb.