Llun CCTV o'r dyn mae'r heddlu'n awyddus i'w holi
Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth wedi i ddyn fygwth dynes a chyllell yng Nghaerffili gan ddweud ei fod am ddwyn ei char.
Mae llun teledu cylch cyfyng (CCTV) wedi cael ei ryddhau o ddyn y mae’r heddlu am ei holi ynglŷn â’r drosedd, a ddigwyddodd tua 2 y pnawn ar 20 Rhagfyr ym maes parcio gorsaf drên Rhisga ym Mhontymister.
Fe redodd y dyn i ffwrdd wedi i drên gyrraedd yr orsaf ac ni chafodd y ddynes ei hanafu.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad dychrynllyd i’r ddynes ac er na chafodd ei brifo, mae wedi cael ei hysgwyd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Mark Cleland.
“Rwy’n hyderus bod gan y dyn sydd yn ein llun wybodaeth am y digwyddiad ac a fydd o help i’n hymchwiliad”.
Gofynnir i unrhyw un sy’n adnabod y dyn neu a oedd yn yr orsaf reilffordd ar adeg y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 310.