Mae Plaid Cymru yn honni bod trethdalwyr ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf am orfod talu bil cyfreithiol o fwy na £350,000, yn sgil ymdrech gan y cyngor i wneud toriadau i addysg feithrin a chau llyfrgell Rhydyfelin.
Cafodd y wybodaeth ei ddatgelu yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru.
Y llynedd, fe gyhoeddodd y cyngor fwriad i arbed £4.5m y flwyddyn drwy newid yr oedran y mae plant yn cael eu derbyn i ysgolion yn llawn amser o dair i bedair oed. Yn ogystal, roedd cynllun i gau llyfrgell Rhydyfelin er mwyn arbed costau – ond fe gafodd gwrthwynebiad llym ei leisio i’r ddau gynllun.
Datgelodd y Cais Rhyddid Gwybodaeth bod y cyngor wedi talu £144,000 am gostau cyfreithiol yr ymgyrchwyr meithrin a £97,500 arall i’r rhai yn Rhydyfelin fu’n ymgyrchu’n llwyddiannus i gadw eu llyfrgell ar agor.
Cyn hyn roedd y cyngor wedi dweud fod eu costau cyfreithiol allanol nhw yn £113,199.
‘Camgymeriad drud iawn’
Meddai’r Cynghorydd Shelley Rees-Owen, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn y Rhondda, na ddylai’r cyngor fod wedi diystyru barn ymgyrchwyr fu’n protestio yn erbyn y cynlluniau:
“Mae ymgyrch y cyngor Llafur i anwybyddu barn rhieni ac ymgyrchwyr wedi methu’n druenus.
“Y canlyniad yw bod £353,000 wedi ei wario ar gyfreithwyr, yn hytrach na darparu gwasanaethau rheng-flaen i’r cyhoedd. Roedd yn gamgymeriad drud iawn.”
Hawl
Ychwanegodd ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Bontypridd, Osian Lewis bod gan y cyhoedd hawl i wybod pwy wnaeth awgrymu i’r cyngor fynd a’r materion i’r llys yn y lle cyntaf:
“Mae hyn yn dangos na allwch fynd yn erbyn ewyllys y bobol heb ymgynghori yn iawn, a dianc yn ddianaf.
“Mae gan y cyhoedd hawl i wybod pwy wnaeth gynghori’r cyngor i fynd â’r ymgyrchwyr i gyfraith.”
Costau
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : “Rydym yn derbyn bod penderfyniadau sy’n ymwneud a thorri gwasanaethau am fod yn amhoblogaidd gyda’r cyhoedd.
“Mae gan drigolion hawl i herio’r penderfyniadau hyn, ac yn achos y cynllun addysg feithrin, fe gafodd y cynllun ei sgrapio.
“Pan mae penderfyniadau yn cael eu herio yn llwyddiannus, mae cost y broses yn disgyn ar yr awdurdod lleol – sydd yn ofid i bawb sydd ynghlwm.”