Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i gerddwr gael ei daro gan fan ar ffordd ym Môn ben bore heddiw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ddamwain ar ffordd yr A5025 rhwng Porthaethwy a Phentraeth am 5 o’r gloch.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhywun sy’n gwybod unrhywbeth am y digwyddiad “difrifol a allai fod wedi peryglu bywyd y cerddwr” – yn arbennig os y gwelodd rhywun ddyn yn cerdded ar y ffordd yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad gyda’r fan wen.