Mae heddlu’r Met yn chwilio am ddyn yn ei arddegau sy’n cael ei amau o geisio llofruddio, wedi iddo gael ei rhyddhau o garchar mewn camgymeriad.

Mae’r llu yn cynnig gwobr o £10,000 am unrhyw wybodaeth a allai arwain at ail-arestio Jordan Lee Francois.

Mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi dweud y bydd yn cynnal “ymchwiliad ffurfiol” i’r mater.

“Mae nifer yr achosion lle mae pobol yn cael eu rhyddhau mewn camgymeriad yn brin iawn, ond yn anffodus iawn,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth.

“Mae nifer yr achosion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar, gyda’r nifer i lawr 25% o gymharu a’r nifer yn 2009/10.

“Ond, wedi dweud hynny, mae pob achos yn cael ei drin fel un difrifol, a does ganddon ni ddim lle i orffwys ar ein rhwyfau.”

Mae plismyn Scotland Yard wedi cyhoeddi disgrifiad o Jordan Lee Francois, gan ddweud ei fod yn ddyn 18 oed tal (6 throedfedd a 4 modfedd) ac o gorffolaeth gref. Mae ganddo gysylltiadau a chydnabod yng ngogledd Llundain.