Mae arbenigwyr ar ddatganoli ym Mhrydain wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dweud bod diffyg cydweithio rhwng llywodraethau’r gwledydd yn rhoi’r broses o ddatganoli mewn peryg – ac mai Cymru fydd ar waelod y rhestr o ran cynigion newydd.

Rhybuddiodd Alan Trench, awdur yr adroddiad sydd hefyd yn cynghori’r Pwyllgor Materion Cymraeg a Cymru Yfory, bod Cymru yn cael bargen “waeth” na gweddill gwledydd Prydain pan nad yw’r llywodraethau yn medru cydweithio’n effeithiol.

Wrth i’r Alban baratoi at dderbyn pwerau ychwanegol yn sgil y refferendwm ar annibyniaeth, mae’n pryderu y bydd Cymru yn cael ei gwthio i gornel oherwydd bod materion allweddol yn cael eu hanwybyddu yn San Steffan – ar gam ac yn fwriadol.

Un o brif ddadleuon Alan Trench yw mai gweinidogion San Steffan sy’n gyfrifol am setlo unrhyw anghydweld, hyd yn oed os yw San Steffan yn rhan o’r ddadl. Mae’n dweud bod hyn yn gwyro gwleidyddiaeth i gyfeiriad Llundain, a bod hyn yn llai atebol ac yn gwneud y polisïau yn wan.

Argymhellion

Rhai o’r argymhellion sy’n cael eu cynnig yn yr adroddiad yw:
• Ffurfio sefydliad annibynnol i ddatrys dadleuon, yn hytrach na gadael y gwaith i weinidogion San Steffan.
• Sefydlu agwedd fwy strwythuredig i faterion dwyochrog, yn benodol i Gymru.
• Sefydlu pwyllgor seneddol ar ddatganoli.

‘System ddim yn gweddu’
Dywedodd Alan Trench wrth lansio’r adroddiad: “Mae’r system Brydeinig o reoli perthnasau o fewn y gwahanol lywodraethau yn hanfodol os yw datganoli am weithio, ond nid yw’n gweddu ar hyn o bryd.

“Mae’n effeithio’r tair llywodraeth ddatganoledig, ond yn taro Caerdydd yn waeth na’r gweddill.”

Fe gyhoeddwyd yr adroddiad ar ddatganoli wrth i Brif Weinidogion Llywodraeth Cymru a’r Alban gwrdd â David Cameron yn Downing Street i drafod datganoli.