Carwyn Jones yn gadael Downing Street bore ma
Mae Carwyn Jones wedi mynnu nad yw’r system bresennol o ddewis a dethol pwerau i’w datganoli i wledydd Prydain yn gweithio.
Roedd Prif Weinidog Cymru yn siarad ar ôl bod mewn cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn Llundain, fforwm sydd yn cynnwys Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig.
Dywedodd Carwyn Jones fod llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cytuno bod angen ffordd decach a chliriach o ddelio â materion cyfansoddiadol yn y dyfodol.
Ac fe rybuddiodd hefyd ei fod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain roi rhagor o wybodaeth iddo ynglŷn â chytundeb masnachu gyda’r UDA allai effeithio ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
‘Dim dewis a dethol’
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod heddiw fe ategodd Carwyn Jones bod angen meddwl am ffordd wahanol o ddelio â datganoli ym Mhrydain bellach.
“Roedd e’n drafodaeth ddefnyddiol a difrifol,” meddai Carwyn Jones. “Fe wnes i e’n glir y byddai parhau â’r dull presennol gam wrth gam o ddatganoli yn ddrwg i Gymru ac yn ddrwg i Brydain.
“Roedd cefnogaeth gan y llywodraethau datganoledig eraill i’n galwad ni am ffordd well, decach, mwy tryloyw o ddelio â materion cyfansoddiadol yn y dyfodol.
“Dywedodd y Prif Weinidog [David Cameron] bod popeth dal ar y bwrdd yn nhermau argymhellion Comisiwn Silk a Chomisiwn Smith yr Alban a’u heffaith ar Gymru, rhywbeth rydw i’n ei groesawu.
“Does neb eisiau ateb ‘one size fits all’ i ddatganoli, ond beth rydyn ni eisiau yw diwedd i’r dewis a dethol, a ffordd sydd wedi’i selio ar barch rhwng y pedair gwlad.”
Poeni am TTIP
Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi cyflwyno “darlun positif” o economi Cymru yn y cyfarfod, gan fynnu hefyd bod angen i Lywodraeth San Steffan wneud mwy i gynorthwyo pobl gyffredin pan oedd hi’n dod at dâl a chostau byw.
Roedd e’n llai hapus â’r ymateb gafodd pan ofynnodd am yr effaith posib y gallai cytundeb masnachu rhwng Ewrop a’r UDA ei gael ar Gymru fodd bynnag.
Fe allai cytundeb y Transatlantic Trade and Investment Partnership (TTIP) olygu bod modd i gwmnïau yn America brynu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ac yn ôl Carwyn Jones, doedd San Steffan ddim wedi lleddfu ei bryderon ynglŷn ag effaith posib y cytundeb.
“Fe ofynnais i i’r Prif Weinidog warantu na fyddai’r cytundeb hwn fyth yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i benderfynu yn llwyr sut mae ein gwasanaethau cyhoeddus ni yn cael eu rhedeg,” meddai Carwyn Jones.
“Allwn ni ddim cael sefyllfa ble mae hyd yn oed posibilrwydd o breifateiddio gorfodol, neu ble dydyn ni methu dod â gwasanaethau sydd wedi’u tendro allan yn y gorffennol nôl o dan reolaeth gyhoeddus.
“Ni chafodd hynny ei warantu. Cawsom addewid o ragor o fanylion, ac rwyf yn aros yn eiddgar am hynny.”