Mae’r diddanwr Martyn Geraint a’r canwr Bryn Fôn wedi lansio gwasanaeth radio digidol DAB newydd i bobol y gogledd-orllewin mewn digwyddiad yn Galeri, Caernarfon.

Fe wnaeth y ddau ddiddanwr adnabyddus wthio botwm mawr gwyrdd er mwyn nodi bod y sianeli Capital, BBC Radio Cymru, Radio Wales, Smooth Radio a Nation bellach ar gael yn ddigidol i tua 100,000 o wrandawyr yng Ngwynedd a Môn am y tro cyntaf.

Bydd y gwasanaethau yn cael eu darlledu o donfeddi trosglwyddydd Nebo ger Penygroes a throsglwyddydd yng Nghonwy.

Dyfodol

Mae gobaith y bydd mwy o drosglwyddyddion DAB yn cael eu hadeiladu yn y gogledd-orllewin  erbyn 2016, gan ddarparu’r gwasanaeth DAB i 70% o boblogaeth yr ardal.

Wrth groesawu’r gwasanaeth newydd i ogledd orllewin Cymru, dywedodd Ed Vaisey, y Gweinidog dros Gyfathrebu a’r Diwydiannau Digidol yn San Steffan:

“Rwyf yn croesawu’r datblygiad yma heddiw yng ngogledd orllewin Cymru ac yn dymuno pob llwyddiant i BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Capital, Smooth, Nation Radio a Nation Hits! ar DAB.

“Mae dyfodol radio yn ddigidol ac mae hwn yn rhan o dwf sylweddol radio digidol DAB ar hyd y DU.”

49% o boblogaeth gogledd Cymru sy’n gallu derbyn gwasanaeth radio DAB ar hyn o bryd.