Mae Theatr Felinfach wedi derbyn rhagor o newyddion da ar drothwy’r Nadolig ar ôl cael cadarnhad y byddan nhw’n derbyn dros £22,000 i adnewyddu seddau eu hawditoriwm.

Fe dderbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru gais gan y theatr am arian ychwanegol er mwyn cael seddau newydd a chreu mwy o ofod i goesau’r gynulleidfa.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant Theatr Felinfach ym mis Tachwedd, pan glywon nhw eu bod nhw wedi ennill £49,000 yng Nghystadleuaeth Miliynau’r Bobl er mwyn adnewyddu’r Gwndwn, eu gofod ymarfer.

Seddau “cyfforddus”

Heddiw fe gadarnhaodd Theatr Felinfach y byddai’r gwaith o osod seddi newydd nawr yn mynd yn ei flaen, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd yn ystod mis Ebrill 2015.

Mae esiamplau o’r seddi newydd eisoes ar gael i’w gweld yn y theatr, ac fe ddywedodd y theatr eu bod yn “swmpus a chyfforddus tu hwnt, gyda mwy o drwch ar y gadair eu hun a chefn uchelach yn ogystal”.

Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach, ei bod yn gobeithio y byddai’r datblygiad newydd yn gwneud y profiad o ymweld â’r theatr yn llawer mwy pleserus.

“Rydym wrth ein boddau o gael y newyddion am ein llwyddiant gyda’r cais,” meddai Rhian Dafydd.

“Mae’r gofod ychwanegol rhwng y seddi yn rhywbeth yr ydym wedi bod eisiau gwella ers sbel, ond yn amlwg roedd angen y cyllid arnom i fedru gwneud hynny. Bydd hyn yn ychwanegu at y profiad o ymweld â gofod sydd â naws arbennig yn barod.

“Mae’n braf cael datgan ychydig o newyddion da a ninnau ar drothwy’r Nadolig. Ga’i gymryd y cyfle ar ran pawb yma yn Theatr Felinfach i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Iach, Llewyrchus a Hapus i bawb.”