Mae dyn o Balesteina wedi taflu asid ar deulu o Iddewon yn ardal y Lan Orllewinol, yn ôl byddin Israel.
Cafodd y dyn ei arestio ac mae aelodau o’r teulu – un ddynes a thair merch – wedi cael trin eu hanafiadau.
Dywedodd y fyddin bod yr ymosodiad wedi digwydd yn Gush Etzion yn Jerwsalem tra’r oedd y teulu Iddewig yn eistedd mewn car.
Mae’n debyg bod ymosodiadau asid yn brin yn Israel a Phalesteina, ond mae 11 o bobol wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau eraill dros y misoedd diwethaf.
Daw’r ymosodiad diweddaraf yma ddiwrnod ar ôl angladd un o aelodau cabinet Palesteina, Ziad Abu Ain, fu farw yn dilyn ffrwgwd gyda milwyr o fyddin Israel.