Acen y Cymry yw’r trydydd mwyaf secsi ym Mhrydain, yn ôl ymchwil newydd gan YouGov.
Dywedodd 50% o bobl eu bod yn ystyried yr acen Gymraeg yn un deniadol, gyda 30% yn anghytuno, gan roi sgôr o 20 i’r Cymry.
Yr acen Wyddeleg ddaeth i’r brig gyda sgôr o 42, gyda Saesneg safonol (neu Received Pronunciation) yn ail â sgôr o 31.
Ac mae’n ymddangos bod y Celtiaid yn hoff o glywed llais ei gilydd – yn ôl y data, pobl o’r Alban oedd y mwyaf tebygol o holl ranbarthau’r Deyrnas Unedig o ddweud bod acen y Cymry yn un secsi.
Brummie yn amhoblogaidd
Ar ben arall y tabl, acen Brummie dinas Birmingham gafodd y sgôr isaf o -53, gyda 67% o bobl yn dweud nad oedden nhw’n hoffi’r acen.
Dyw hi ddim yn ymddangos fel bod acen y Sgowsars o Lerpwl, na phobl Manceinion, yn plesio chwaith gyda’r ddau yn sgorio dros -30.
Roedd acen Cockney Llundain, ac acen Albanaidd Glasgow, hefyd yn cael sgôr ‘secsi’ isel.
Ond roedd rhai o acenion eraill gogledd Lloegr yn fwy deniadol, yn ôl y pôl, gydag acen Swydd Efrog yn cael sgôr o 15, Gorllewin Lloegr sgorio 13, a Geordies Newcastle yn cael marc o 10.
Dim ond o drwch blewyn y cafodd acen Gogledd Iwerddon sgôr positif o bum pwynt – felly mae hi’n ymddangos bod Gwyddelod y Weriniaeth dipyn ar y blaen pan mae’n dod at swnio’n secsi!