Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhuddo pedwar o bobl eraill mewn cysylltiad â chyflenwi cyffuriau fel rhan o Ymchwiliad Scorpion.

Cafodd y pedwar eu harestio ddoe yng Nghricieth, Porthmadog, Nefyn a Phenrhyndeudraeth.

Mae dyn 19 oed o Benrhyndeudraeth a dynes 19 oed o Nefyn wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, ynghyd a dyn 20 oed o Borthmadog a dyn 21 oed o Flaenau Ffestiniog.

Mae’r pedwar wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddan nhw’n mynd gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar 22 Rhagfyr.

Cafodd merch 16 oed o Nefyn a dyn 28 oed o Borthmadog eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones bod y cyhuddiadau heddiw yn golygu bod 22 o bobl bellach wedi cael eu cyhuddo fel rhan o Ymchwiliad Scorpion.
Mae wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â chyflenwi neu gynhyrchu cyffuriau i ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.