Bydd cerbyd arbennig i’w weld ar strydoedd Abertawe yr wythnos nesaf mewn ymgais i leihau nifer y gyrwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon ar strydoedd y ddinas.

Bydd swyddogion o’r Cyngor Sir yn rhoi rhybudd swyddogol i unrhyw un sy’n cael ei weld yn parcio’n anghyfreithlon, ond fe fydd y gosb yn cynyddu i ddirwy o fis Ionawr ymlaen.

Mae gan y cerbyd gamera ar y to sy’n casglu delweddau o geir sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon, ac fe fydd swyddogion yn penderfynu ar sail y delweddau a ddylid cosbi gyrwyr.

Mae’r mesurau newydd yn cael eu cyflwyno yn dilyn cwynion gan drigolion a busnesau Abertawe, ac fe fyddan nhw’n mynd i’r afael â phroblemau o amgylch ysgolion, safleoedd bysys a Stadiwm Liberty.

Hwn yw’r cam diweddaraf mewn cyfres o fesurau newydd i fynd i’r afael â phroblemau parcio, wedi i oriau swyddogion parcio gael eu hymestyn i’r nosweithiau a’r penwythnosau yn ddiweddar.

‘Cwynion’

Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn cyflwyno’r cerbyd mewn ymateb i gannoedd o gwynion gan rieni ac athrawon sy’n pryderu bod eu plant mewn perygl oherwydd gyrwyr anghyfrifol sy’n parcio’n anghyfreithlon ger mynedfeydd ysgolion.

“Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’r heddlu i geisio rheoli parcio ond mae’r broblem yn tueddu i ddychwelyd pan fydd y patrolau troed yn gadael yr ardal.

“Mae gweithredwyr cludiant yn y ddinas wedi cysylltu â ni hefyd am eu bod yn methu cael mynediad i safleoedd bysus oherwydd ceir sy’n parcio yno. O ganlyniad, mae’n anodd i deithwyr fynd ar y bws ac oddi yno.”