Arfbais Llywelyn Ein Llyw Olaf
Mae ysgolion ledled Cymru wedi bod yn cofio am dywysog olaf Cymru, Llywelyn Ein Llyw Olaf, heddiw.
Yn ôl yr hanes, ar y diwrnod yma yn 1282 bu farw’r arweinydd yn dilyn ymosodiad dirybudd gan filwyr Edward I ym mhentref Cilmeri.
Credir i gorff Llywelyn Ein Llyw Olaf, neu Llywelyn ap Gruffydd, gael ei gladdu yn Abaty Cwm Hir ger Rhaeadr ac mae rhai yn dadlau nad oes erioed arweinydd cyn gryfed ag o wedi bod yng Nghymru, ac eithrio Owain Glyndŵr.
Roedd ei daid Llywelyn Fawr hefyd yn arweinydd cadarn a lwyddodd i uno gwahanol ardaloedd o Gymru dan ei arweiniad.
Cwymp
Bu Llywelyn yn teyrnasu am bron i 30 mlynedd cyn ei farwolaeth, wedi iddo gael ei gyhoeddi yn dywysog Gwynedd yn 1255.
Ar 11 Rhagfyr 1282, arweiniodd fyddin o 7,000 o filwyr i ardal ger Llanfair-ym-Muallt. Ond wedi iddo fo a chriw bychan o’i ddynion wahanu oddi wrth weddill y fyddin, ymosodwyd arnyn nhw ac fe laddwyd Llywelyn.