Gwenno Williams
Fe fydd llawer yn ei chael hi’n anodd bwydo eu teuluoedd y Nadolig hwn, yn ôl Gwenno Williams …
Gyda dydd Nadolig yn prysur agosáu mae ein harian yn mynd fel dŵr wrth i ni wario ar anrhegion, addurniadau a’r trimins oll.
Mae’n anodd dychmygu mynd heb y digoneddau yma’r adeg hon o’r flwyddyn, ond yn anffodus dyma yw’r gwirionedd i nifer o deuluoedd, ac nid yn unig dros gyfnod yr ŵyl.
Cyhoeddwyd ffigyrau’n ddiweddar yn dangos fod pobl hyd a lled y wlad yn dibynnu’n fwy ar fanciau bwyd i drechu newyn yn ddyddiol, gyda’r nifer o fanciau bwyd ym Mhrydain yn cynyddu i 1,200.
Argyfwng yng Nghymru
Cyhoeddwyd ‘Ymholiad i Newyn a Thlodi ym Mhrydain’ yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun i geisio archwilio’r rhesymau dros y cynnydd sylweddol yma.
Mae’r broblem yn arbennig o ddifrifol yma yng Nghymru, gyda dros 79,000 o bobl yn defnyddio banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell y llynedd.
Mae’r ffigwr yma hyd yn oed yn fwy anghredadwy o ystyried bod tua 71,000 o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd yn yr Alban – gwlad sydd â dau draen yn fwy o drigolion na Chymru.
Gwladoli? Dim diolch
Prif gynnig yr ymholiad yw gwladoli’r banciau bwyd presennol a chreu rhwydwaith cenedlaethol o dan yr enw Feed Britain, a fydd o dan ofal San Steffan.
Mae’r syniad yn cael ei wthio’n bennaf gan Justin Welby, sef Archesgob Caergaint a phrif ariannwr yr ymholiad, wrth iddo geisio efelychu banciau bwyd Canada sydd wedi’u gwladoli’n raddol dros y 30 mlynedd diwethaf.
Yn anffodus nid yw banciau bwyd Canada’n llwyddo, gyda 850,000 o bobl y mis yn dal i ddibynnu ar y banciau, gan dderbyn dim ond $295 werth o fwyd y flwyddyn.
Trychineb llwyr felly fyddai gwladoli banciau bwyd Prydain. Maent wedi’u sefydlu gan elusennau annibynnol a’u cynnal gan ewyllys da’r cyhoedd.
Byddai gwladoli yn tanseilio hyn gan droi Feed Britain yn wystl gwleidyddol wedi’i reoli gan Aelodau Seneddol sydd heb unrhyw amgyffred o fywyd y dyn cyffredin, fel dangosodd y Farwnes Jenkin o Kennington – a oedd yn rhan o’r ymholiad – trwy ddatgan mai diffyg sgiliau coginio’r tlawd yw achos cynnydd yn y galw am fanciau bwyd.
Rôl yr archfarchnad
Pwynt amheus arall o’r ymholiad yw’r galwad i annog archfarchnadoedd i roi mwy o fwyd i’r banciau bwyd, yn lle taflu bwyd sydd yn gymwys i’w fwyta i’r bin.
Fe fydd hyn hefyd yn helpu’r wlad i gyrraedd y targed o ostwng gwastraff bwyd o 1.1 miliwn tunnell erbyn 2015.
Serch y syniad dilys y tu nôl i hyn, mae’n ein twyllo i gredu mai diffyg bwyd yw’r broblem, a bydd newyn cenedlaethol yn diflannu wrth i’r cwmnïau mawr hael ein gwaddoli gyda bocsys llawn dop o fwyd.
Toriadau yn brathu
Rhaid sylweddoli pam fod pobl yn troi at y banciau bwyd yn y lle cyntaf, sef diffyg arian i gynnal costau byw.
Ers 2003 mae costau bwyd, tanwydd a thai wedi cynyddu’n uwch ac yn gynt na chyflogau cenedlaethol, gan greu bwlch enfawr rhwng gwariant ac enillion sydd yn effeithio’r tlawd fwyaf.
Ac wrth ychwanegu toriadau i fudd-daliadau a diweithdra, does dim dewis gan bobl heblaw troi at y banciau bwyd er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.
Rhaid sylweddoli nad datrysiad tymor hir yw’r banciau bwyd; yn hytrach maent yn adnodd argyfwng. Dylai’r bwriad yn y pendraw fod i weld y nifer o fanciau bwyd yn disgyn, wrth i bobl medru cynnal ei hunain.
Deffro’r gwleidyddion
Credaf mai’r cam cyntaf fydd i gael Aelodau Seneddol i gydnabod fod newyn wir yn broblem ddifrifol, ac nid awgrymu mai sgiliau cyllidebu gwael sydd wrth wraidd sefyllfa ariannol teuluoedd, fel y gwnaeth Michael Gove.
Ar hyn o bryd rhaid i ni barhau i gynnal y banciau bwyd nes i bobl fedru byw hebddynt, ac ni all David Cameron ail-wneud y camgymeriad o wrthod £22miliwn o’r Undeb Ewropeaidd tuag at gynnal banciau bwyd am ei fod am osod ei syniadaeth wrth-Ewropeaidd yn uwch na lles trigolion Prydain.
Yr unig ffordd i wir ddatrys y broblem , yn ôl yr ymholiad, yw codi’r lleiafswm cyflog a chyflogau yn gyffredinol er mwyn cael cydbwysedd tecach a mwy ymarferol rhwng cael arian i fyw a thalu biliau.
Dim ond bryd hynny y bydd pob teulu yn gallu byw heb ofidio am o ble fydd y pryd nesaf yn dod.
Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.