Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas
Mae patholegwyr yn Israel a Phalestina yn anghydweld ynglŷn ag achos marwolaeth aelod o gabinet Palestina fu farw ar ôl gwrthdaro gyda milwyr Israel ar y Lan Orllewinol ddoe.

Mae meddyg Palestina yn dweud bod Ziad Abu Ain, 55, wedi marw ar ôl cael ei daro, ac nad oedd wedi marw o achosion naturiol. Ond mae meddyg Israel yn dweud ei fod wedi marw o ganlyniad i broblemau gyda’i galon.

Roedd swyddog Palestinaidd wedi honni’n gynharach bod archwiliad post mortem yn dangos bod Ziad Abu Ainwedi marw  o ganlyniad i anadlu nwy dagrau a chael ei guro gan filwyr Israel.

Roedd yr oedi cyn ei gludo i’r ysbyty hefyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth, yn ôl Hussein Sheikh, gweinidog materion sifil Palestina.

Mae delweddau o’r safle mewn pentref ger Ramallah yn dangos swyddog Israelaidd yn gafael yng ngwddf Ziad Abu Ain cyn iddo syrthio i’r llawr. Roedd hynny wedi cythruddo Palestiniaid wrth i’r tensiynau gydag Israel barhau.

Dywedodd lluoedd Israel yn ddiweddarach bod yr heddlu wedi gwrthdaro gyda thua 60 i 100 o Balestiniaid a oedd yn taflu cerrig atyn nhw yn ninas Hebron ar y Lan Orllewinol.

Mae Arlywydd Palestina, Mahmoud Abbas, yn honni bod Ziad Abu Ain wedi marw o ganlyniad i “weithred farbaraidd” ac mae wedi cyhoeddi tridiau o alaru am y gweinidog.

Dywed gweinidog amddiffyn Israel, Moshe Yaalon, bod y fyddin yn barod i ymchwilio i’r digwyddiad gyda swyddogion Palestinaidd.

Mae’r Unol Daleithiau wedi galw am ymchwiliad “teg a thryloyw” ar fyrder ac yn apelio ar y ddwy ochr i weithio gyda’i gilydd i leihau’r tensiynau.