Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd sy’n rhoi nifer o brosiectau allweddol ar waith trwy Gymru.

Ymhlith y ffyrdd a fydd yn elwa o’r cynllun yn y gogledd mae’r A55 gan gynnwys y ffordd sy’n croesi Afon Menai a’r A487 rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd.

Yn y canolbarth, fe fydd gwaith yn cael ei wneud ar ffordd osgoi’r Drenewydd ar yr A483/A489.

Yn y de a’r gorllewin, bydd gwelliannau i ffordd osgoi Llandeilo ar yr A483 ac ar yr A40 ger Llanddewi Felfre a Phenblewin, sy’n cynnwys mynediad i Ardal Menter Dyfrffordd y Daugleddau, ac mae’n golygu datblygu Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Yn gyffredinol, y gobaith yw y bydd y gwaith yn lleihau amserau teithio ar drenau rhwng y de a’r gogledd a gwella capasiti.

Bydd hyd y prosiectau’n amrywio rhwng pump a deng mlynedd ar hugain, ac fe fyddan nhw’n cyd-fynd â Chynlluniau Trafnidiaeth Lleol yr awdurdodau lleol trwy Gymru.

‘Hyblygrwydd’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae gan drafnidiaeth rôl gwbl hanfodol i’w chwarae o ran sicrhau bod economi Cymru’n fwy cystadleuol a gwireddu’n dyheadau cymdeithasol.

“Nod y Cynllun hwn yw mynd ati i gynllunio trafnidiaeth mewn ffordd newydd a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni ac yn sicrhau bod ein buddsoddiad yn diwallu anghenion busnesau, pobl a chymunedau yn y ffordd orau bosibl.

“Mae angen system drafnidiaeth arnon ni a fydd yn darparu cysylltiadau rhagorol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac a fydd yn galluogi busnesau i gyrraedd marchnadoedd a phobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith, ac ar addysg a gwasanaethau.”

Blaenoriaethau

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn seiliedig ar bum blaenoriaeth bwysig a nodwyd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a baratowyd gan Lywodraeth Cymru:
• Twf economaidd
• Mynediad at gyflogaeth
• Trechu tlodi
• Teithio cynaliadwy a diogelwch
• Mynediad at wasanaethau

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft a manylion yr ymgynghoriad i’w gweld yma. http://wales.gov.uk/consultations/transport/draft-national-transport-plan

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Mawrth 2015.