Mae dwsinau yn fwy o bobol wedi honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn ystod eu hamser gyda’r Sgowtiaid, ddiwrnod ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi ymddiheuriad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Sgowtiaid ddoe eu bod yn “difaru’r” dioddefaint hanesyddol sydd wedi ei achosi yn sgil cam-drin plant o fewn y sefydliad.

Ers hynny, mae’r cyfreithiwr David McClenaghan wedi dweud bod 30 o bobol wedi cysylltu â’i gwmni dros nos i ddeud eu bod hwythau wedi cael eu cam-drin.

Roedd hefyd yn cyhuddo’r Sgowtiaid o ymddiheuro ddim ond yn sgil “pwysau mawr gan y wasg.”

“Mae’n gyfleus iawn eu bod nhw’n ymddiheuro rŵan ond mae’n diwallu eu hunain, yn hytrach nag yn ymddiheuriad diffuant i’r unigolion.”

Iawndal

Daeth y cwynion i’r fei mewn adroddiad gan y BBC am ddau achos o gam-drin hanesyddol na chafodd eu pasio ymlaen i’r heddlu.

Mae’r Sgowtiaid wedi cyfaddef eu bod wedi talu tua £500,000 o iawndal i ddioddefwyr ers mis Hydref 2012, ac yn dweud bod tua 36 o bobol wedi dwyn achosion yn erbyn y sefydliad:

“Rydym yn ymddiheuro i bawb sydd wedi cael eu cam-drin yn ystod eu hamser yn y Sgowtiaid”, meddai llefarydd.

“Diogelwch pobol ifanc y sefydliad yw ein prif flaenoriaeth.”

Ymchwiliad cyhoeddus

Ond mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd, Elfyn Llwyd, wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus os nad yw’r holl gwynion gafodd eu cofnodi yn cael eu cyhoeddi.

“Os yw’r sefydliad yn newid ei feddwl ac yn rhyddhau’r wybodaeth yma, mae popeth yn iawn. Ond os nad ydyn nhw, mae angen ymchwiliad gan mai dyma’r unig ffordd o fynd at wraidd y broblem a chael cyfiawnder i’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin,” meddai wrth y BBC.