Mae tri uwch swyddog o Heddlu De Cymru wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi iddyn nhw ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ddwyn £30,000.

Roedd y Ditectif Rhingyll Stephen Phillips, 46, o Abertawe, y Cwnstabl Phillip Christopher Evans, 37, o Lanelli a Michael Stokes, 34, o Gastell-nedd wedi gwadu’r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, ac fe fydd achos yn eu herbyn yn cychwyn ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr erlynydd Gemma Vincent bod yr arian wedi dod o dŷ cwpwl o’r enw Natalie a Joedyn Luben, ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch yno yn 2011.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod tri dyn wedi cael eu cyhuddo fel rhan o ymchwiliad ar y cyd gyda Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).