Mae cefnogaeth i’r Blaid Werdd wedi cynyddu ymysg bobol ifanc o dan 25 oed, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Mae’r blaid wedi ennill 12% yn fwy o gefnogaeth gan yr ifanc ym Mhrydain ers mis Ionawr, sy’n 8% yn fwy na’r Democratiaid Rhyddfrydol ac 1% yn fwy na’r Ceidwadwyr.

Erbyn hyn, mae 19% o bobol 18-24 oed wedi dweud y buasen nhw’n pleidleisio dros y Blaid Werdd, o’i gymharu â 7% ym mis Ionawr.

Daeth i’r amlwg hefyd bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi disgyn o 10% ymysg bobol ifanc ers mis Ionawr.

Er hyn mae Llafur dal yn geffyl blaen gyda 34% yn cefnogi’r blaid. Y Ceidwadwyr sydd yn ail a’r Blaid Werdd bellach yn drydydd ymysg bobol o dan 25 oed.