Robert Stuart
Mae disgwyl i reithfarn gael ei gyhoeddi heddiw mewn cwest i farwolaeth dau ddyn o dde Cymru fu farw ar ôl derbyn arennau oedd wedi eu heintio.

Bu farw Robert Stuart, 67 o Gaerdydd, a Darren Hughes, 42 o Ben-y-bont ar Ogwr, y llynedd ar ôl cael trawsblaniadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae’r cwest eisoes wedi clywed bod gan y rhoddwr 39 oed o Fanceinion “hanes arwyddocaol yn ymwneud ag alcohol”, a bod saith ysbyty arall wedi gwrthod ei arennau oherwydd eu bod yn anaddas.

Bu farw o lid yr ymennydd, a gafodd ei achosi gan lyngyr parasitig prin.

Datgelodd archwiliadau post-mortem fod gan Robert Stuart a Darren Hughes hefyd y parasit yn eu cyrff pan wnaethon nhw farw.

Bydd canlyniad y cwest yn cael ei gyhoeddi yn Llys y Crwner yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Caniatâd

Clywodd y gwrandawiad gan deulu’r ddau ddyn nad oedden nhw wedi cael gwybod bod organau’r rhoddwr wedi cael eu gwrthod gan nifer o ysbytai eraill ar ôl cael eu hystyried yn “anaddas i’w trawsblannu”.

Dywedodd tad Darren Hughes, Ian, wrth y gwrandawiad na fyddai wedi llofnodi’r ffurflen ganiatâd ar ran ei fab anabl petai’n gwybod fod yr aren wedi dod gan ddyn oedd yn gaeth i alcohol.

Ond roedd arbenigwyr yn yr ysbyty yn hyderus na fyddai llid yr ymennydd yn cael ei drosglwyddo i’r dynion dderbyniodd yr arennau wedi i brofion risg gael eu cwblhau.