Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones heddiw yn cyhoeddi’r prosiectau fydd yn rhannu dros £1miliwn yn 2014-15 i ddatblygu canolfannau a lleoedd dysgu newydd i hybu’r Gymraeg.
Cafodd y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf ei chyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gar eleni.
Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cyllid ychwanegol yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i ddatblygu “canolfannau deinamig lle bydd pobol yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg”.
Dyma’r prosiectau a fydd yn cael cymorth yn ystod cylch ariannol 2014-15:
• Cyngor Ynys Môn – £138,723 i ddatblygu canolfannau’r sir ar gyfer trochi hwyrddyfodiaid yn y Gymraeg
• Prifysgol y Drindod Dewi Sant – £300,000 i brynu adeilad yng nghanol tref Caerfyrddin, a’i droi’n ganolfan iaith amlbwrpas
• Cyngor Sir Gaerfyrddin – £70,000 i weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu canolfan iaith amlbwrpas yn Llanelli
• Coleg Cambria – £300,000 i ddatblygu canolfan ar gyfer dysgu sgiliau Cymraeg sy’n berthnasol i’r gweithle, a hynny yng nghanol tref Wrecsam, er mwyn darparu cyfleoedd dysgu a rhwydweithio Cymraeg i fusnesau.
‘Canolbwynt ar gyfer hybu’r iaith’
Dywedodd Carwyn Jones bod annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac yn eu cymunedau lleol yn “rhan ganolog” o raglen Bwrw Mlaen y Llywodraeth.
Meddai: “Bydd y prosiectau dw i’n eu cyhoeddi heddiw yn creu canolfannau dysgu deinamig yn ein trefi a’n cymunedau, sef canolfannau a fydd yn ganolbwynt ymarferol ar gyfer hybu’r iaith ymhlith pobol o bob oed,” meddai’r Prif Weinidog.
“Bydd canolfannau megis ‘Y Lle’ yn Llanelli yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd yn cynnig cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg a meithrin eu hyder. Dw i’n edrych ymlaen at glywed sut mae pob un o’r prosiectau hyn yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf.
“Mae cylch ariannu 2015-16 ein Cronfa Gyfalaf bellach ar agor, a hoffwn annog awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i anfon eu ceisiadau ar gyfer y cylch ariannu nesaf hwn.”
‘Toriadau’
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas wedi croesawu’r buddsoddiad mewn canolfannau iaith ond gresynu’r toriadau i gyllideb y Gymraeg mewn mannau eraill fel yr arian ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd llefarydd addysg, sgiliau a’r iaith Gymraeg Plaid Cymru: “Tra bod y Blaid yn croesawu arian ar gyfer canolfannau iaith, mae toriadau wedi bod i gyllideb y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd pwerau’r Comisiynydd yn cael eu tanseilio i raddau helaeth gyda thoriad o 24% i’w chyllideb, ac mae hyn yn bygwth ei hannibyniaeth.
“Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi methu a gwneud unrhyw wir gynnydd ar ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg, ar waethaf ffigyrau brawychus y Cyfrifiad oedd yn dangos dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.”
Rhagor am gynlluniau Y Lle yng ngylchgrawn Golwg yr wythnos hon.