Cynlluniau ar gyfer Morlyn Abertawe
Mae gobeithion heddiw fod prosiect arloesol Morlyn Bae Abertawe gam yn nes, wrth i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ddweud ei fod eisiau gweld morlyn pŵer llanw cyntaf yn y byd yn cael ei adeiladu yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau trafodaethau gyda Tidal Lagoon Power Cyf, y cwmni sy’n gobeithio adeiladu’r morlyn fyddai’n cynhyrchu trydan adnewyddadwy gyda phŵer y llanw, i weld a yw’n fforddiadwy a beth fydd y gwerth am arian i drethdalwyr.

Mae datblygwyr y prosiect gwerth £750 – 850 miliwn wedi dweud mai dyma’r cam cyntaf yn natblygiad technoleg allai ddiwallu 10% o anghenion trydan y DU.

Os bydd yn cael ei gymeradwyo, byddai’r cynllun yn gweld wal chwe milltir o hyd yn cael ei chodi o amgylch Bae Abertawe gan greu morlyn, ac fe fydd tyrbinau yn Aber Afon Hafren yn gallu cynhyrchu pŵer am 14 awr y dydd.

Mae disgwyl i’r prosiect arloesol ddarparu ynni adnewyddadwy i 120,000 o gartrefi am gyfnod o hyd at 120 o flynyddoedd.

‘Sefyllfa unigryw’

Croesawodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb y newyddion, gan ddweud fod ganddo’r potensial i roi hwb enfawr i economi’r wlad gan greu miloedd o swyddi a sicrhau dyfodol ynni Cymru.

Meddai Stephen Crabb AS: “Mae Cymru eisoes yn gartref i rai o’r cwmnïau mwyaf blaengar yn y byd, ac mae’r wlad mewn sefyllfa unigryw i arloesi ynni llanw.

“Rwy’n gefnogwr brwd o’r prosiect hwn ac rwy wedi bod yn gwneud yr achos i fy nghydweithwyr yn y Cabinet y dylai Cymru fod yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg carbon isel.”

Mae gan y DU botensial mawr i gynhyrchu ynni gyda llanw – mae Aber yr Afon Hafren gyda’r llanw ail fwyaf yn y byd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey bod y Llywodraeth yn dangos ei fod yn o ddifrif am ynni llanw.

Meddai: “Mae ynni llanw yn gyfle enfawr i Brydain. Gallai morlynnoedd llanw ar eu pen ei hunain ddarparu hyd at 8% o’n hanghenion ynni ni, gan gymryd lle tanwydd ffosil gyda thrydan glân, dibynadwy.”

‘Hwb economaidd enfawr’

Dywedodd Peter Black, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Orllewin De Cymru: “Byddai’r morlyn yn dod â hwb economaidd enfawr i Abertawe, a’r ardaloedd cyfagos.

“Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cynhyrchu llawer iawn o swyddi lleol allai gynhyrchu miliynau o bunnoedd yn y rhanbarth.

“Gyda’i harfordir enfawr, mae potensial ar gyfer nifer o forlynnoedd yng Nghymru. Gobeithio y bydd y cyhoeddiad pwysig hwn yn arwain y ffordd ar gyfer prosiectau tebyg pellach.”